top of page

Cyflwyniadau Cymreig

Canllawiau ar gyfer cyflwyno teipysgrifau yn y Gymraeg 

Yn y lle cyntaf gofynnwn ichi gyflwyno crynodeb o’r gwaith cyfan a hefyd y 50 tudalen cyntaf o’r gwaith (a does dim bwys os yw’r sampl yn gorffen ar hanner pennod neu hyd yn oed ar hanner brawddeg)  fel dogfen .docx neu PDF. Os gwelwch yn dda, anfonwch y 50 tudalen cyntaf a dim darn o ganol y llyfr neu gymysgedd o’r ddau. Anfonwch gopi electronig o'ch gwaith at submissions@honno.co.uk.

Mae tri dyddiad cau y flwyddyn ar gyfer cyflwyno teipysgrifau yn y Gymraeg:  Ionawr 1, Mai 1 a Medi 1. Byddwn yn anelu i ymateb o fewn tri mis o’r dyddiad cau ond gall gymryd hirach gan mai gwirfoddolwyr ydy aelodau’r isbwyllgor a fydd yn darllen y teipysgrifau. Gofynnwn ichi fod yn amyneddgar tra’r ydym yn ystyried eich gwaith.

Mae cyflwyniadau’n agored i bob awdur benywaidd yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg. Hoffem annog yn arbennig fenywod o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn cyhoeddi nad oes ganddynt asiant, a’u gwaith eto heb ei gyhoeddi a fyddai’n nodi eu bod yn Bobl Dduon, Asiaidd neu o grŵp lleiafrifoedd ethnig, LGBTQ +, pobl anabl neu grwpiau eraill.

bottom of page