top of page
Y Defodau

Y Defodau

Rebecca Roberts

Gweinydd yw Gwawr, sef un sy’n cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi’n cynnal defodau sy’n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi’n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o’i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ôl i’r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ôl i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb.
Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i’w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu’n faleisus yn ei herbyn – yn benderfynol o’i dinistrio!

Dim ond drwy ail-ymweld â chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy’n ceisio difetha ei gyrfa a’i busnes. Mae’n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a’i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar ôl blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatáu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?

Publication Date

ISBN

20 June 2022

9781912905645

bottom of page