top of page
Plant y Gorthrwm

Plant y Gorthrwm

Gwyneth Vaughan

Hon yw’r seithfed gyfrol yng nghyfres Clasuron Cymraeg Honno

Stori genedlaetholgar, wleidyddol yw Plant y Gorthrwm (1908) am yr effeithiau trychinebus ar gymuned fechan yng nghefn gwlad gogledd Cymru yn sgil Etholiad Cyffredinol 1868. Darlunnir un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru’r bedwaredd ganrif ar Bymtheg, sef pan feiddiodd tenantiaid bleidleisio dros y Blaid Ryddfrydol yn erbyn cyfarwyddiadau eu tirfeddianwyr Torïaidd: fe’u taflwyd allan o’u cartrefi am eu hyfdra!

Drwy ei delweddau grymus o Anghydffurfwyr plwyf Llangynan, yn arbennig ei chymeriadau benywaidd, dengys Gwyneth Vaughan (1852-1910) wrhydri’r werin, a’r modd y troes eu dioddefaint yn fuddugoliaeth gan sicrhau rhyddid I Gymry’r dyfodol. Crynhoir llawenydd yr awdur a thrigolion Bro Cynan mewn datganiad gorfoleddus, sy’n dwyn i gof ddigwyddiad tebyg ar fore tebyg yng Nghymru’r ugeinfed ganrif. Meddai Gwyneth Vaughan:

O Fae Ceredigion hyd at Glawdd Offa, o lannau Môr y Werydd hyd gwr eithaf Gwyllt Walia, adseiniai buddugoliaeth fel eco trwy ei chreigiau a’i mynyddoedd. Bore gogoneddus oedd hwnnw yn hanes Cymru, a erys yn garreg filltir i’w phlant tra bo Môn a môr o’i deutu.

Publication Date

ISBN

25 July 2014

9781909983144

bottom of page