top of page
Mae'r Galon Wrth Y Llyw

Mae'r Galon Wrth Y Llyw

Kate Bosse-Griffiths

Hon yw’r wythfed gyfrol yng nghyfres Clasuron Cymraeg Honno

Prif gymeriad y stori hon yw Doris, merch ifanc ddeallus, a’i bryd ar ddilyn gyrfa lwyddiannus fel nyrs mewn ysbyty mawr yn y dref lle cafodd ei magu yn ne Cymru.

Fel merch athronyddol a chwilfrydig ei natur, mae ei sgyrsiau fel arfer yn troi’n drafodaethau ar bynciau mawr dynoliaeth. Cred bod y fath beth yn bod â’r ‘Profiad Mawr’, ac y bydd hi ymhlith y nifer bychan iawn o ferched sy’n syrthio mewn cariad â’r un a dynghedwyd ar ei chyfer, a hithau ar ei gyfer yntau. Pan gyfarfu ag Arthur, daeth yn wrthrych ei serch, a’i breuddwyd o dreulio bywyd difyr, cyfartal, gydag ef, y ddau yn un, yn ei thyb, ar fin cael ei gwireddu.

Fodd bynnag, cymhlethdod mawr y stori yw bod Arthur sy’n gweithio fel darlithydd ifanc, eisoes wedi dyweddïo â Siân, cymeriad confensiynol, dibynnol, heb unrhyw uchelgais heblaw sicrhau cysur a llwyddiant ei darpar ŵr. Fel un oedd ddeng mlynedd yn hŷn nag Arthur, aberthodd Siân bopeth i dalu am ei holl addysg uwch, ac ni fedr fyw, os na fydd Arthur yn ei phriodi.

Dilynwn brofiadau nwydus a dirdynnol, chwareus a chwerw wrth i Doris ac Arthur a Siân geisio ymdopi â’r penderfyniadau dyrys sy’n rhaid eu gwneud, er gwell neu er gwaeth, ac sy’n troi’r berthynas rhwng cymeriadau’r nofel hon wyneb i waered.

Mae’r nofel yn ymchwilio natur cariad, ac a oes modd i gariad y tu allan i briodas herio confensiynau moesoldeb a chrefydd draddodiadol.

Publication Date

ISBN

16 July 2016

9781909983526

bottom of page