top of page

Dros Frigau'r Don: cerddi Cymraesau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn America

Dros Frigau'r Don: cerddi Cymraesau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn America

Golygydd a Rhagarweinydd: Dr Melinda Gray

Mae Dros Frigau’r Don yn cyflwyno ac yn dehongli cerddi Cymraeg Cymraesau America’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn rhoi llwyfan i gyfoeth ac ehangder lleisiau benywaidd Cymraeg y gorffennol.

Dan olygyddiaeth Melinda Gray, PhD Prifysgol Harvard ac aelod o Fwrdd NAASWCH, cyflwynir cerddi yn y flodeugerdd hon am y tro cyntaf: cerddi gan fenywod y diaspora Cymreig yn America, ochr yn ochr ag ambell gerdd Saesneg, sy’n adlewyrchu cyd-destun diwylliannol dwyieithog y ‘byd newydd’.

Drwy atgyfodi’r cerddi eang hyn, ceir cipolwg ar fywydau’r beirdd a sut y defnyddiwyd barddoniaeth i gynnal rhwymau teuluol ymysg y Cymry a oedd ar wasgar ar hyd Gogledd America a phontio’r pellter rhwng cymunedau yr hen wlad a’r byd newydd. Yn wir, dangosa’r flodeugerdd sut yr oedd y Cymry-Americanaidd yn gwasanaethu eu cymunedau ac yn cyfrannu at fywyd cyhoeddus yr Unol Daleithiau yn fwy eang.

Publication Date

ISBN

18 June 2026

9781916821552

bottom of page