![Dramâu’r Rhosys Cochion](https://static.wixstatic.com/media/a9cf23_65fe660c993145a8bcd96d8b7f02788d~mv2.png/v1/fill/w_512,h_288,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Image-empty-state.png)
Dramâu’r Rhosys Cochion
Sharon Morgan
Ede Hud, Holl Liwie’r Enfys, Trafaelu ar y Trên Glas
Yn ôl ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant ynglŷn â’r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei ‘ysgrifennu allan’, ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a’i wneud yn anweledig. Ac mae’n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai’n cydnabod neu’n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae’r gyfrol hon sydd yn ddilyniant i gyfrol arloesol Theatr Y Gymraes yn trafod gwaith Sera Moore Williams yn ymdrech i lenwi’r bylchau a chyfoethogi’r hanes trwy ddogfennu tair drama ysgrifenwyd a perfformiwyd gan Sharon Morgan i Rhosys Cochion. Yn anorfod ac yn anad dim mae’r testunau a’r cyddestun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes, at hunaniaeth a’r estheteg fenywaidd sydd yn cydnabod y corff benywaidd fel gwraidd creadigrwydd.
Publication Date
ISBN
26 October 2023
9781912905492