top of page
Cyfrinachau

Cyfrinachau

Eluned Phillips

Nofel yw hon sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf, yn seiliedig ar berthynas Eluned Phillips yr awdur â Per, Llydäwr ifanc y cyfarfu ag ef pan oedd yn byw ym Mharis ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Ni wyddys faint o’r digwyddiadau sy’n wir a faint sy’n gynnyrch creadigrwydd a dychymyg yr awdur, ond gwyddom ei bod wedi rhoi lloches i nifer o Lydawyr a gyhuddwyd o gydweithio gyda’r Almaenwyr yn ei chartref yng Nghenarth.\nMae Yann ar gychwyn y nofel yn garcharor yn Llydaw am iddo, yn rhinwedd ei swydd fel newyddiadurwr, gael ei weld yn cymdeithasu ag Almaenwr. Mae Tegwen, ei gariad, wedi dychwelyd at ei mam i’w fferm fechan yng ngorllewin Cymru. Un dydd daw André, ffrind Yann â’r newydd trychinebus bod Yann mewn carchar yn Llydaw yn aros i gael ei ddedfrydu fel bradwr a’i ddienyddio.\nO hyn ymlaen mae pethau’n symud yn gyflym gyda Tegwen ac André’n dychwelyd i Lydaw i gynllunio sut i helpu Yann i ffoi o’r carchar.

Cyn diwedd y stori lawn cariad a chasineb, teyrngarwch a brad, cenfigen a gwewyr, awn o Lydaw i Gymru i Iwerddon a’r America. Dyma gyfres o brofiadau sy’n codi gwallt y pen, ac o ddiddordeb arbennig hyd heddiw, gan i gymaint o Lydawyr mewn bywyd go iawn ddioddef yr un fath o erledigaeth.

Dyma drysor o glasur, ac yn dilyn y nofel cyhoeddir am y tro cyntaf erioed drysor arall, sef y gerdd ‘Corlannau Bywyd: La Môme Piaf’ (Llwyd Bach y Baw) am y gantores Ffrengig Edith Piaf yr oedd Eluned Phillips yn ei hadnabod yn dda, ygerdd a ddaeth yn ail i’w cherdd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967.

Publication Date

ISBN

9 July 2021

9781912905416

bottom of page