WITSH: IN CONVERSATION WITH MARI ELLIS DUNNING
Dydd Gwener 31 Hydref, 5.30pm | Y Drwm ac ar-lein
Friday 31 October 5.30pm Y Drwm, National Library

Discover the story behind WITSH (Honno, 2025) as the author Mari Ellis Dunning joins Dr Emma Butler-Way in conversation.
Dunning weaves a dark tale of suspicion and fear in the novel, where midwife Sara Gwen is accused of witchcraft in sixteenth century Wales. Inspired by largely unknown Welsh witchcraft history, the novel is deeply rooted in tradition and realism, and rich with bold feminist themes.
Mari Ellis Dunning is a poet, novelist and lecturer. WITSH is her debut novel.
Her debut poetry collection, Salacia, was shortlisted for Wales Book of the Year 2019. She teaches at Aberystwyth University, where she delivers courses on feminist writing.
Dr Emma Butler-Way is a Lecturer on Aberystwyth University’s Integrated Foundation Year. She has a PhD in English Literature, for which she studied British sensation fiction of the 1860s.
An English language event.
Dewch i glywed y stori tu ôl WITSH (Honno, 2025) yng nghwmni’r awdur Mari Ellis Dunning a fydd yn sgwrsio gydaDr Emma Butler-Way yn y digwyddiad amserol yma.
Yn y nofel, mae Dunning yn gweu stori dywyll o amheuaeth ac arswyd, lle caiff y fydwraig Sara Gwen ei chyhuddo o wrachyddiaeth yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg.
Wedi’i hysbrydoli gan hanes gwrachyddiaeth Cymru, sydd i raddau helaeth yn anhysbys, mae’r nofel wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn traddodiad a realaeth, ac mae’n llawn themâu ffeministaidd cryf.
Mae Mari Ellis Dunning yn fardd, yn nofelydd ac yn ddarlithydd.WITSH yw ei nofel gyntaf.
Cafodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Salacia, ei henwebu ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2019.
Mae hi’n dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n cyflwyno cyrsiau ar ysgrifennu ffeministaidd.
Mae Dr Emma Butler-Way yn Ddarlithydd ar Flwyddyn Sylfaen Integredig Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg, a’i maes ymchwil oedd llenyddiaeth synwyryddol Prydeinig yr 1860au.
Digwyddiad drwy gyfrwng y Saesneg.
