Description
Dringo’r Andes & Gwymon y Môr
By Eluned Morgan
Edited by Ceridwen Lloyd-Morgan, Kathryn Hughes
£5.95
Out of stock
Cynrychiola Eluned Morgan (g. 1870) gyfnod arwyddocaol yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig. Fe'i ganed ar fwrdd y llong Myfanwy pan oedd honno'n cludo gwladfawyr o Gymru i'r Wladfa Gymreig a oedd newydd ei sefydlu ym Mhatagonia. Perthynai Eluned felly i ddau fyd Cymreig: yr hen famwlad a'r Wladfa newydd, a gwelir hyn ar waith yn y pwyslais a rydd ar wreiddiau yn ei llenyddiaeth.
Mae gwareiddiad hefyd yn bwysig iddi wrth ystyried safonau cymdeithasol Cymru a Phatagonia, ynghyd â pherthynas y gwladfawyr a'r Sbaenwyr â llwythau brodorol. Yn eironig, o ystyried mai gwladychwyr oedd y Cymry hwythau, sylweddolodd Eluned mor niweidiol oedd presenoldeb yr Ewropeaid i ddiwylliant y brodorion, a darlunia berthynas gilyddol ramantus rhwng y Cymry a llwyth y Teheulches.
Myfyriodd hefyd ar ddylanwad dinistriol dyn ar yr amgylchedd. Llyfrau taith creadigol yw Dringo'r Andes (1904) a Gwymon y Môr (1909), y naill yn croniclo ei thaith ar gefn ceffyl i'r Andes, a'r llall yn trafod mordaith o Lundain yn ôl i Batagonia.
Er gwaethaf ei hofnau nodweddiadaol (a di-sail) bod ei Chymraeg ysgrifenedig yn ddiffygiol, mae arddull Eluned yn fywiog, yn sylwgar ac yn bersonol, ac erys ei themâu yn berthnasol o hyd.
Foreword:
ISBN: 9781870206457
Language: Welsh
Categories: Autobiography & Memoir, Clasuron Honno, Ffeithiol, Llyfrau Cymraeg, Teithio
First Published by Honno: 1st Ionawr 2001