Description
Y mae Cerddi Jane Ellis yn garreg filltir bwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Y casgliad hwn o gerddi, a gyhoeddwyd gyntaf yn y Bala yn 1816, yw’r gyfrol brintiedig gyntaf yn y Gymraeg gan ferch. Cyhoeddir testun llawn o’r cerddi yn y golygiad newydd hwn, ynghyd â rhagymadrodd sy’n rhoi Jane Ellis yn ei chyd-destun llenyddol a hanesyddol. Y mae’r cerddi yn taflu goleuni ar sawl pwnc pwysig: y cylch profiad benywaidd, yr emyn yng Nghymru, hynt Methodistiaeth, twf diwydiannaeth, a natur a datblygiad canu menywod yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bardd a chanddi gysylltiadau â’r Bala ac â’r Wyddgrug oedd Jane Ellis (1779ar ôl 1841). Y mae swyddogaeth gymdeithasol amlwg i’w cherddi: canodd i’w theulu ac i’w phlant, i’w chymdogion, ac i Fethodistiaid ei hardal, gan gyflawni ei rôl fel mam, ac yn drosiadol fel mam yn Israel.
Cymrawd Dyson ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yw Dr Rhiannon Ifans. Y mae ganddi ddiddordebau ysgolheigaidd amlochrog: cyhoeddodd ar farddoniaeth a rhyddiaith yr Oesoedd Canol, yr anterliwt, y theatr, carolau plygain, a bywyd gwerin. Y mae hi hefyd yn awdur nifer o lyfrau i blant ac yn enillydd Gwobr Tir na n-Og.
Hon yw’r bumed gyfrol yng nghyfres Clasuron Honno, cyfres sy’n cyflwyno gweithiau anghofiedig gan awduresau Cymraeg a Chymreig i gynulleidfa newydd.