£5.95

Telyn Egryn (1850) yw’r gyfrol gyntaf a gyhoeddwyd yng nghyfres Clasuron Honno. Mae barddoniaeth Elen Egryn, sef Elin neu Elinor Evans (g. 1807) o Lanegryn, Merionnydd, yn gyfrol bwysig yn hanes barddoniaeth gan ferched yng Nghymru am mai hi yw un o’r cyfrolau printiedig cyntaf gan ferch yn y Gymraeg.

Want a discount? Become a member.

Description

Telyn Egryn (1850) yw'r gyfrol gyntaf a gyhoeddwyd yng nghyfres Clasuron Honno. Mae barddoniaeth Elen Egryn, sef Elin neu Elinor Evans (g. 1807) o Lanegryn, Merionnydd, yn gyfrol bwysig yn hanes barddoniaeth gan ferched yng Nghymru am mai hi yw un o'r cyfrolau printiedig cyntaf gan ferch yn y Gymraeg.

Yn hyn o beth, adlewyrcha'r hyder newydd a gawsai merched wrth weld eu gwaith yn ymddangos mewn print mewn cylchgronau megis Y Gymraes a'r Cronicl. Mae ystod thematig ei cherddi yn eang: crefydd, galar, cyfeillgarwch, alltudiaeth ac iselder. Ochr yn ochr â'r Gymraes, cylchgrawn i ferched a lawnsiwyd gan Ieuan Gwynedd, mae Telyn Egryn yn rhan o ymdrech hynod i wrthweithio niwed Brad y Llyfrau Gleision trwy hybu delwedd y Gymraes ddelfrydol: merch dduwiol, barchus a moesol. Fel atodiad i'r gyfrol hon, cynhwysir cerddi gan feirdd benywaidd a gydoesai ag Elen.

Additional information

Weight .194 kg
Dimensions 21.7 × 13.8 × 17 cm