Description
Sioned
By Winnie Parry
Edited by Ceridwen Lloyd-Morgan, Kathryn Hughes
£6.99
Out of stock
Ganed Winnie Parry (1870-1953) yn y Trallwng a magwyd hi yn y Felinheli, ond treuliodd gyfran dda o'i bywyd yn gweithio yn Llundain. Serch hynny, cadwodd gysylltiadau Cymreig cryf ar hyd ei hoes: roedd yn ffrind agos i O.M. Edwards a bu'n olygydd Cymru'r Plant am gyfnod hir.
Mae Sioned (1906),'perl o nofel' yn ôl Jane Edwards, yn adrodd anturiaethau merch ifanc, ddireidus yng nghanol cymdeithas Anghydffurfiol ac amaethyddol Sir Gaernarfon y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cawn hanes ei helyntion gyda’i brawd a’i rhieni a’i hamryw gyfoedion, gan rannu ei hiraeth yn Llundain, ei hwyl wrth dynnu coes gwesteion a gweision y fferm, ei phryder pan gaiff ei brawd ddamwain, a’i phoen calon wrth iddi syrthio mewn cariad.
Roedd gan Winnie Parry'r ddawn i adrodd stori ac i gyfleu cymeriad deniadol, ac roedd ganddi glust dda hefyd a'i galluogodd i gyfleu sgwrs naturiol a byrlymus ar bapur. O.M. Edwards am y nofel hon, 'tybiwn fod ei dull yn dlws, ei chwaeth yn bur, a'i bod yn anadlu bywyd.' Lluniwyd y rhagymadrodd a'r golygiad newydd gan Ceridwen Lloyd-Morgan a Kathryn Hughes, ill dwy yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac yn arbenigo ar hanes merched a'u cyfraniad i hanes diwylliant Cymru.
Foreword:
ISBN: 9781870206037
Language: Welsh
Categories: Clasuron Honno, Ffuglen, Llyfrau Cymraeg, Novels
First Published by Honno: 1st Ionawr 2003