Ar Awst 1af ymddangosodd clasur Cymraeg diweddaraf Honno, sef argraffiad newydd o’r nofel Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi, gan Elena Puw Morgan (1900-1973) yn ysgrifennu o dan yr enw Elena Puw Davies. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn 1933 a’i hadargraffu fwy nag unwaith o fewn degawd, gymaint oedd ei phoblogrwydd ymhlith darllenwyr Cymru. Mae’n stori sy’n pontio pum cenhedlaeth, a Nansi Lovell, sipsi Gymraeg o dras y Romani, yn aelod o’r drydedd genhedlaeth. Mae’n adrodd, wrth ei hwyres Nansi Wyn, hanes ei magwraeth o dan ofal ei Nain hithau, Nans Wood.

Digwyddiad tyngedfennol sy’n llywio datblygiad y stori oedd ymweliad cyfrinachol Nansi Lovell, yn ferch ifanc, chwilfrydig, 17 mlwydd oed, â  gerddi Plas Madog. Yno, daeth Madog, mab ifanc y plas ar ei thraws a chael ei swyno ganddi.  Penderfynodd y buasai’n hoffi ei phriodi, gan drefnu iddi gael benthyg ei lyfrau, a derbyn addysg gonfensiynol. Wrth i’r stori symud yn ei blaen, archwilir y tensiynau sy’n codi wrth i ferch o sipsi briodi un o wŷr mawr yr ardal, a’r camau a gymerwyd i gadw’i gwreiddiau’n gyfrinachol.

Er i’w priodas fod yn gymharol ddedwydd am nifer o flynyddoedd, yn y pen draw, aeth y tyndra ac ymddygiad trahaus ei gŵr yn drech na Nansi, ac mae’n dychwelyd at ei theulu, gan adael ei phlant yng ngofal dynes a ddewiswyd ganddo ef fel person addas i fagu ei blant mewn dull confensiynol. Ar ei dychweliad daeth yn benaethes ei llwyth, fel ei Nain o’i blaen, ac yn ei henaint, yn unigedd ei charafán, mae’n myfyrio ar ddirgelion a thrychinebau ei bywyd a’u hegluro i Nansi Wyn. Yn ei thyb hi, roedd ei hwyres Nansi Wyn – oedd yn gwbl wahanol i weddill teulu’r Wyniaid – yn berchen ar yr un natur fentergar â hi ei hunan fel merch ifanc, a’i gwreiddiau Romani wedi goresgyn dylanwadau ei magwraeth mewn cartref confensiynol, cyfoethog, breintiedig.

Ychwanegir at ddrama’r nofel gan ymddangosiadau dirybudd Alana Lee yn ei dillad llachar ar ei cheffyl mawr gwyn –  presenoldeb bygythiol sy’n gwyrdroi cwrs y nofel a bywydau prif gymeriadau teulu’r Woodiaid.

Wrth osod Nansi Lovell yn ei chyd-destun, gellir gweld bod gan Elena Puw Morgan ddiddordeb gwirioneddol yn y sipsiwn, rhai ohonynt yn ymwelwyr cyson ag ardal Corwen, lle’r oedd y byw, a’u gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i ddyddiau Abram Wood. Mae diffuantrwydd ei chefnogaeth iddynt a’i hedmygedd diffuant  o’u talentau – fel pysgotwyr, fel arbenigwyr ar geffylau ac fel perfformwyr cerddorol – yn cyfoethogi’r nofel hon. Nid eu gweld o safbwynt y giorgo (pobl nad oedd yn sipsiwn) fel rhai i gadw’n ddigon pell oddi wrthynt a wneir, ond edrych ar y giorgo o safbwynt y sipsi, a hyn yn cynyddu ei hunigolyddiaeth fel ffuglen. Ac yn wahanol i ffuglen Gymraeg y cyfnod, a oedd bron yn ddieithriad o dan ddylanwad Anghydffurfiaeth, nid oes son am gapel nac eglwys yn Nansi Lovell, sy’n cynyddu ymhellach ei gwreiddioldeb.

EPSON MFP image

Roedd Elena Puw Morgan yn gymeriad amlwg yn ei chymuned, a’i haelwyd hi a’i gŵr yng Nghorwen yn denu pobl flaengar y byd llenyddol, yn cynnwys yr ymwelydd cyson, John Cowper Powys. Cydnabyddir yn gyffredinol gan feirniaid llenyddol ei bod yn un o’r awduron a symudodd ffuglen Gymraeg gam mawr ymlaen. Hi oedd enillydd benywaidd cyntaf y fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a hynny yng Nghaerdydd yn 1938 am ei nofel Y Graith, ac yn 1997 cynhyrchwyd ffilm o’i nofel gynharach, Y Wisg Sidan. Ar ei marwolaeth talwyd teyrnged iddi gan ei chyd-awduresau, Dyddgu Owen a Kate Roberts, y ddwy yn gresynu bod afiechyd a gofalon teuluol wedi rhwystro Elena Puw Morgan rhag datblygu ei photensial ymhellach, a ninnau fel canlyniad wedi ein hamddifadu o gynnyrch talent a fyddai wedi blodeuo ac ychwanegu heb amheuaeth at gyfoeth llenyddol Cymru.

Yn ffodus mae dwy wyres Elena Puw Morgan, yr academyddion Mererid Puw Davies ac Angharad Puw Davies yn ymddiddori’n fawr yng ngwaith ei Nain, ac mae’r ddwy wedi ysgrifennu Rhagymadrodd i’r clasur hwn. Ar nos Wener, 14 Medi, 2018, bydd y ddwy yn siarad am fywyd a gwaith ei nain, pan fyddwn yn lansio Nansi Lovell yn eu cwmni yn Academi Hywel Teifi yn Abertawe am 6 o’r gloch. Croeso i bawb!


Mae Rosanne Reeves, yn un o aelodau sylfaen Honno, Golygydd y Clasuron Honno, ac awdur Dwy Gymraes, Dwy Gymru: Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders; Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2014 . / Rosanne Reeves, is one of Honno’s founding members, Editor of the Clasuron Honno, and author of Dwy Gymraes, Dwy Gymru: Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders; Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2014 .