Jump to content
 
Honno Women's Press Logo ?lang=en

menywod gwych, ysgrifennu gwych, llyfrau gwych

|hafan|amdanon ni|catalog|newyddion|digwyddiadur|gwybodaeth i awduron|i'r wasg|masnach|cysylltwch â ni

Catalog



A ddarllensoch chi...?

Clawr | Cover

Struggle or Starve: Stories of everyday heroism between the wars

£9.99

Mwy o wybodaeth


PRYNU'R LLYFR HWN


tel|Ffôn 01970 623150

Llongyfarchiadau calonnog i enillwyr ein cystadleuaeth stori fer


circusweb_bach.jpg

Yr enillydd:Sian Northey

Y rhai nesaf at y gorau:Angharad Watkins, Eiry Miles

Bydd yr enillydd yn derbyn potel o siampaen a £40 mewn arian parod oddi wrth Honno
Bydd y rhai nesaf at y gorau yn derbyn £20


Cystadleuaeth 'Honno'gan Caryl Lewis

Roedd hon yn gystadleuaeth gryf iawn gyda nifer iawn yn dewis thema'r 'ffair' ar gyfer eu darn. Gan mai creu darn byr o ryddiaith oedd y dasg, fe chwiliais am ddarnau a oedd yn dweud stori yn ogystal a chyflwyno delweddau a theimliadau. Edrychais am ddarnau a fframwaith stori gan y bod hi'n demtasiwn i ysgrifennu darn o 'farddoniaeth rhyddieithol' yn hytrach na stori fer. Roedd nifer o'r straeon yn gorffen yn ben-agored, sy'n siwtio'r cyfrwng, a'r rhai mwyaf llwyddiannus ddim yn ceisio cyflwyno gormod o syniadau.


Yr enillydd:Sian Northey
Dim ond heddiw tan yfory. Ac ar ôl yfory byddwn yn crwydro law yn llaw gan wirioni ar lestri rhad a chyllyll poced dianghenraid, ac yn byta sothach, ac yn cael peint neu ddau ac yna dadla os mynd ar y waltser neu'r ianci gyntaf.
Ac wrth i mi grwydro'r ffair ar fy mhen fy hun a mynd adra cyn i bawb ddechra hel i'r tafarndai dwi'n cofio mam yn dweud bod hi'n bwrw a bod Cricieth yn bell ac fod yna ddwy ffair ac y bydda ni'n mynd i'r ail. Finna'n coelio fod yr ail ffair yn well ffair.



Mam,Angharad Watkins

Syllai Helen ar ei hwyneb. Edrychai fel petai'n cysgu, fel petai caeadau rhychiog ei llygaid wedi hen ildio i flinder ganol prynhawn. Bu mis cyfan ers iddi weld ei mam ddiwethaf. Cywilyddiodd, ond beth fedrai wneud a hithau'n byw mor bell i ffwrdd? Teimlai edmygedd tuag at Huw, ei brawd. Nid pob dyn dibriod a fyddai wedi bodloni ar fyw gyda'i fam. Wedi'r cyfan, roedd hi'n ddynes a lwyddai i fynd o dan groen rhywun. Edrychodd Helen ar ei brawd. Eisteddai yng nghornel yr ystafell, y dagrau'n llifo'n addfwyn i lawr ei wyneb a'r clustog yn drwchus yn ei law.


Eiry Miles:

Tair ar ddeg oed oedd Jake, fel fi. Ond doedd e ddim yn blentyn. Roedd blewiach ar ei wefus uchaf, ac ambell bloryn blin. Eisteddai cap pig mawr ar ei ben bach esgyrnog, a gallwn weld ambell gydyn lliw peroxide oddi tano.

Roedd wedi cymryd ffansi ata i, wrth gau gwregys diogelwch dur y Waltzer.
"What's your name then?"
"Mererid."
"Want to meet behind the chip van after?"
"OK"
"Pam ti moyn cwrdd â gippo fel fe?" meddai Beth, â'i llygaid yn llawn dychryn.
"Sai'n gwybod . jyst i weld ."
Roedd yn braf bod yn ferch ddrwg am unwaith.


***Carem ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r gystadleuaeth***










Mae'ch basged yn wag
dangos basged
Cynnwys y safle hawlfraint © Honno 2006-2010  |  Dyluniwyd y wefan gan mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.