Catalog
A ddarllensoch chi...?Sea of Troubles M. Stanford-Smith £8.99Mwy o wybodaeth PRYNU'R LLYFR HWN
|
Yn gyntaf oll - EIN HEGWYDDORION
DIM OND gwaith gan fenywod o Gymru, menywod sy'n byw yng Nghymru, neu fenywod â chanddynt gysylltiadau Cymreig arwyddocaol a gyhoeddir gan Honno. Cysylltwch â ni am gyngor os ydych yn ansicr p'un a ydych yn ateb y gofynion hyn neu beidio.
Dim ond gwaith awduron sy'n cwrdd â'r gofynion uchod a ystyrir gan Honno, a hynny os yw eu gwaith o safon ddigonol. Os dewisir eich gwaith i'w gyhoddi, telir y costau cyhoeddi gan Honno.
Wedi dweud hynny ... un o brif amcanion Honno yw datblygu llenorion benywaidd Cymru a rhoi'r cyfle cyntaf iddynt weld eu gwaith mewn print. Rydym yn llwyddo i gyflawni hyn trwy osod galwadau cyson am ddeunydd ar gyfer ein casgliadau o straeon byrion, trwy gynnal gweithdai a sesiynau 'Cwrdd â'r Golygydd', a thrwy gynnig adborth adeiladol ar y llawysgrifau a gyflwynir i ni.
Rydym yn cyhoeddi casgliadau o straeon byrion yn aml a hynny er mwyn rhoi cyfle i awduron newydd weld eu gwaith mewn print ochr yn ochr ag awduron sydd eisoes wedi ennill eu plwyf. Dyma restr o'n galwadau cyfredol ar gyfer deunydd:
"In her Element:Women's Experiences of the Welsh Landscape" - Os yr ydych wedi bod uwch ben eich digon yn cerdded drwy dirwedd Cymru, hoffen glywed oddi wrthych. Rhdym yn chwilio am ddarnau hunangofiannol rhwng 1000 a 4000 o eiriau, a chysylltiad cryf a man penodol neu gyfres o fannau yng Nghymru. Dyddiad cau ar gyfer Cyfwyniadau:30ain Ebrill 2007 ( Cyhoeddiad Saesneg fydd hwn ond cyfiethir darnau diddorol o'r Gymraeg)
Os gwelwch yn dda anfonwch eich darn, gan amgau amlen hunan-gyfeiriedig a'ch manylion cyswllt cyflawn at: " In her Element", Honno Gwasg i Fenywod Cymru, D/O Myw, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH. 01970 623150 post@honno.co.uk
" In Her Element " ...Mwy o wybodaeth
Bob blwyddyn rydym yn ceisio cynnal gweithdai i awduron yn y Gwanwyn a'r Hydref. Cynhelir y gweithdai mewn rhannau gwahanol o Gymru er mwyn galluogi i awduron ledled y wlad fanteisio arnynt. Ceir gwybodaeth am weithdai arfaethedig ar ein rhestr o ddigwyddiadau.
Rydym hefyd yn cynnig cyfleon cyson i'n hawduron gyfarfod ag un o olygyddion Honno wyneb yn wyneb. Unwaith eto, ymgynghorwch â'n rhestr o ddigwyddiadau.
Rydym wastad yn falch o dderbyn llawysgrifau digymell o unrhyw fath, ond ar hyn o bryd, nid ydym yn chwilio yn benodol am farddoniaeth nac ychwaith nofelau i blant a phobl ifanc.
Serch hynny, beth bynnag yw natur eich gwaith creadigol, sicrhewch eich bod yn ateb y gofynion a nodir ar dop y dudalen hon CYN ei gyflwyno i ni.
Yn gyntaf oll, wrth gyflwyno'ch llawysgrif, anfonwch grynodeb ynghyd â'r 50 tudalen cyntaf. Anfonwch y gwaith at Olygydd Honno: Honno, MyW, Vulcan Street, Aberystwyth. SY23 1JH.
Noder: ystyrir pob llawysgrif yn unigol ac y mae hyn yn cymryd amser. Rydym yn ceisio ymateb i lawysgrifau o fewn tri mis o'u derbyn, fodd bynnag, hwyrach y bydd angen disgwyl yn hirach yn ystod cyfnodau prysur iawn.
|
 |