Jump to content
 
Honno Women's Press Logo - 25 years! ?lang=en

menywod gwych, ysgrifennu gwych, llyfrau gwych

|hafan|amdanon ni|catalog|newyddion|digwyddiadur|gwybodaeth i awduron|i'r wasg|masnach|cysylltwch â ni

Clawr/Cover - Sioned

Catalog




tel|Ffôn 01970 623150

Sioned

Winnie Parry  Llyfrau i gyd gan Winnie Parry

Golygydd: Ceridwen Lloyd-Morgan, Kathryn Hughes

£6.99     PRYNU'R LLYFR HWN

Mae Sioned (1906),'perl o nofel' yn ôl Jane Edwards, yn adrodd anturiaethau merch ifanc, ddireidus yng nghanol cymdeithas Angyhydffurfiol ac amaethyddol Sir Gaernarfon y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ganed Winnie Parry (1870-1953) yn y Trallwm a magwyd hi yn y Felinheli, ond treuliodd gyfran dda o'i bywyd yn gweithio yn Llundain. Serch hynny, cadwodd gysylltiadau Cymreig cryf ar hyd ei hoes: roedd yn ffrind agos i O.M. Edwards a bu'n olygydd Cymru'r Plant am gyfnod hir.

Mae Sioned (1906),'perl o nofel' yn ôl Jane Edwards, yn adrodd anturiaethau merch ifanc, ddireidus yng nghanol cymdeithas Angyhydffurfiol ac amaethyddol Sir Gaernarfon y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd gan Winnie Parry y ddawn i adrodd stori ac i gyfleu cymeriad deniadol, ac roedd ganddi glust dda hefyd a'i galluogodd i gyfleu sgwrs naturiol a byrlymus ar bapur. O.M. Edwards am y nofel hon, 'tybiwn fod ei dull yn dlws, ei chwaeth yn bur, a'i bod yn anadlu bywyd.' Lluniwyd y rhagymadrodd a'r golygiad newydd gan Ceridwen Lloyd-Morgan a Kathryn Hughes, ill dwy yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac yn arbenigo ar hanes merched a'u cyfraniad i hanes diwylliant Cymru.

Rhagarweiniad/Cyflwyniad gan: Owen M. Edwards

ISBN: 9781870206037

Iaith: Cymraeg

Adran: Ffuglen  Nofelau  Clasuron Honno  

Cyhoeddwyd yn gyntaf gan Honno yn : 2003

Cyhoeddiad diweddaraf: 1988


Mae'ch basged yn wag
dangos basged
Cynnwys y safle hawlfraint © Honno 2006-2010  |  Dyluniwyd y wefan gan mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.